
Dylunio
Yng Nghymru heddiw gallwch wylio'r teledu ar eich ffôn, gwrando ar eich radio ar eich teledu, a defnyddio'ch gliniadur ar gyfer bron iawn bopeth. Mae llawer o'n cleientiaid yn defnyddio'r tri ar unwaith.
Mae datrysiadau dylunio ar-lein oddi ar-lein Cazbah yn ddigon creadigol i ddenu sylw ac yn ddigon syml i fod yn ddealladwy yn y farchnad orlawn sydd ohoni.
Rydym yn gwybod mai ond un agwedd yw cynllunio gwych. Bydd ein hysgrifenwyr copi yn 'plymio'n ddwfn' gyda'ch cwmni, er mwyn gwrando ar yr hyn yr ydych angen ac er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu eich gwerthoedd ac yn rhoi hwb i'ch brand.
​
Byddwn yn gweithio gyda chi hyd yr eithaf i'ch cynorthwyo i greu a chynnal eich presenoldeb ar Facebook, twitter, Youtube a beth bynnag nesaf fydd ar gael yn y sector newidiol yma.
​



